The best pub walk on Anglesey - Anglesey Photographer

Bwa Gwyn rock, with turquoise sea and Mynydd Twr in the distance.

*ewch i waelod y dudalen i ddarllen yn Gymraeg*

The Best Pub Walk on Anglesey- Anglesey Photographer

I’m going to make a big statement. Really big. I’ve found the best pub walk on Anglesey. There are loads of country and coastal walks on the island, and loads of pubs. But I’ve found the pub walk to end all pub walks. It’s a walk we’ve done a fair few times as a family and we love it. It’s in the Rhoscolyn area of the island, on Ynys Cybi (Holy Island). We love it because it’s not too long (but there is a way to extend it), it takes in a few local landmarks, it has streams and stepping stone bridges, the scenery is unreal, and it ends up at The White Eagle pub, which I can highly recommend for food. I’ll try and explain the route as best I can, but before you head out, it’s probably best to familiarise yourself with the route on an actual map. So, here we go…


1.    Park at St Gwenfaen’s Church

In the height of summer, Rhoscolyn gets very busy very quickly. Off season and during the week, there’s usually spaces to park next to St Gwenfaen’s church - postcode LL65 2SQ / what3words animated.remember.hazel - or on the road opposite the village hall. Please be careful not to park in front of farmers’ gates or in passing places.


2.    Take the path to the right of the church

As you look at the church from the road, you’ll see a lane leading to the right - follow this all the way up until it forks in two, and then take the left path. It looks like you’re walking down someone’s drive, but this is definitely the right way! The farmer here has gone to great lengths to make the public footpaths obvious and safe, and there are signs up with arrows to point you in the right direction. Keep following the arrows through some fields until you reach the coastal path. You’ll be looking West, and on a clear day you can see Mynydd Twr (Holyhead Mountain) from here. Once you’ve reached the coastal path, you’ll spot a small cove (which smugglers use, according to my daughter!) and you’ll know you’re heading the right way.


3.  Turn left onto the coastal path

At the ‘smuggler’s cove’, turn left onto the coastal path. It won’t be long before you see Bwa Du (Black Arch). Follow the path with the sea on your right hand side, over small bridges and streams, and you’ll reach Bwa Gwyn (White Arch) - an amazing rock formation rising from the turquoise seas which is popular with abseilers and climbers. You wouldn’t catch me doing that, not even for £1million. Well, maybe £1million cash. Maybe. Anyway, even with your feet firmly on land it’s an absolutely stunning place, with Mynydd Twr visible again in the background. It’s a lovely place for a picnic and is probably about 1/3 of the way round the short route of this walk.


4. Follow the path to the coastguard hut

Keep going east along the coastal path - this is probably the most challenging bit, and the section of the walk that, if you’ve got children with you, you’ll need to have them within arms’ reach. There are 2 short parts of the path here which are quite close to the cliff edge or are very steep. The scenery on this section of the walk is just stunning on a clear day. As you head up the hill to the coastguard’s hut, the yellow gorse is striking against the turquoise seas, and as you reach the top of the hill, the whole of Eryri can be seen, all the way from the Carneddau to the tip of Penllyn. You’ll also see the crescent shaped Borth Wen beach from the top of this hill, with its white sands and crystal waters (the ‘Wen’ in the name Borth Wen means ‘white’ in English). Take some time to soak up the 360* views from the top of the hill - I think I’ll go so far as to say that it’s the best view on Anglesey.



5. Decide How long you want your walk to be

As you head down the hill from the coastguard’s hut, there are 2 paths that you can take. Take the path to the left, and within 5-10 minutes you’ll be back at St Gwenfaen’s. This is the one we take because by this point my legs are tired! Once you get back onto the road that the church is on, take a right - the White Eagle is about 200 yards away. Or, if you fancy making your walk a little bit longer, keep going down the hill from the coastguard’s hut. Follow the arrows and the footpath will bring you out on Borth Wen beach. At low tide you can walk on the sand, and if the tide is in there’s a raised walkway that will take you to the beach car park. From here, it’s a walk up the single-track road that will lead you back up to the White Eagle. The beach route is probably an extra 30 minutes, and the walk from the beach to the pub is uphill - don’t say I didn’t warn you!


In total, the shorter route takes around 1 - 1.5 hours when we walk it without stopping. It’s a fairly easy route, with some steep bits and some bits of the path that are close to the cliff edge. Unfortunately it’s not suitable for prams or wheelchairs (or toddlers who might run off!). Dogs need to be kept on a lead as there are lots of livestock fields that are either crossed as part of the footpath, or directly next to the footpath. For those who can walk it though it’s so worth it, especially on a clear day. And knowing that there’s a lovely pub at the end of it (with a great outside seating area that, again, has mountain and sea views!) might just be what you need to reward yourself after all that fresh air.

So go on, name me a better pub walk on Anglesey. I’ll wait…

Have you tried this walk? What did you think? Let me know in the comments section below or come and join me over on Facebook or Instagram.

Clare x

About Me

Hi, I’m Clare, an award winning North Wales baby photographer and family photographer who loves working with natural light. I cover Anglesey, North Wales and Cheshire for maternity, newborn, child and family photoshoots. Get in touch if you’d like to book your family’s Anglesey photoshoot.

 
 

Am Dro I’r Dafarn - Ffotograffydd Ynys Môn

Roedd na ddweud mawr yn ein ty ni wsos yma, pan udish i ‘mod i ‘di ffeindio’r dro gora yn Sir Fôn. Mae na lwyth o droeon lyfli ar yr ynys - rhai cefn gwlad, rhai arfordirol. Ac mae na lwyth o pubs hefyd. Ond dwi’n deutha chi mai HWN ydi’r dro gora yn Sir Fôn sy’n gorffen yn y pub. Hwn ydi’r boi.

Dwi wedi gwneud y dro yma sawl gwaith efo ‘nheulu bach i ac mi ydan ni wrth ein bodd efo hi. Mae’n mynd a chi rownd Rhoscolyn, sydd ar Ynys Cybi. Mae’n gallu bod yn dro eithaf hawdd sy’n cymryd jyst dros awr, neu mae modd ei wneud yn hirrach os da chi’n ffansi. Mae’r golygfeydd yn odidog, mae na afonydd bach i’w croesi ar gerrig camu, ac, fel udish i, ma na pub (y White Eagle) ar ddiwedd y daith. Win win.

Mi wnai ‘ngora glas i ddisgrifio’r dro yn fyma, ond plîs gwnewch yn siwr eich bod chi’n sbïo ar fap go iawn cyn i chi fynd allan!

1.    Parciwch Wrth Eglwys St Gwenfaen

Mae Rhoscolyn yn gallu bod yn andros o brysur yn yr haf. Ond yn ystod yr wythnos, neu tu allan i wyliau ysgol, mae na fel arfer lefydd parcio i’w cael wrth ymyl eglwys St Gwenfaen - côd post LL65 2SQ / what3words animated.remember.hazel - neu ar y lôn gyferbyn â neuadd y pentref. Plîs gwnewch yn siwr eich bod chi ddim yn parcio o flaen giatau lôn neu mewn manau pasio.


2.    Ewch ar y llwybr i’r dde o’r Eglwys

Wrth sbïo ar yr eglwys o’r lôn, dilynwch y llwybr sydd i’r dde o’r eglwys nes ei fod yn rhannu’n ddau. Wedyn ewch ar y llwybr ar y chwith - mae’n edrych fel bo chi’n cerdded lawr dreif rhywun, ond dwi’n gaddo mai hwn di’r ffordd cywir! Mae’r ffarmwr yn fyma wedi bod yn gweithio’n galed i wneud yn siwr fod y llwybr yn saff ac yn amlwg, felly mae’n rili hawdd dilyn yr arwyddion i wybod pa ffordd i fynd. Dilynwch yr arwyddion nes i chi gyrraedd llwybr yr arfordir. Wrth gerdded ‘ffor ma, da chi’n gwynebu’r Gorllewin, ac ar ddiwrnod clir mae’n bosib gweld Mynydd Twr (Mynydd Caergybi) wrth i chi gerdded.


3.  Trowch i’r chwith ar lwybr yr arfordir

Unwaith i chi gyrraedd y llwybr ei hun, trowch i’r chwith a’i ddilyn nes i chi gyrraedd Bwa Du. Cariwch ymlaen ar y llwybr yma, dros afonydd fechan a pontydd cerrig camu, a mi gyrheuddwch chi Bwa Gwyn - carreg enfawr sy’n edrych fel bod o’n tyfu allan o’r mor gwyrddlas i greu siâp pont. Yn fyma fyddan ni’n aml yn gweld pobl yn ‘abseilio’ lawr neu’n dringo fyny. O mam bach, dim gair o gelwydd - fyswn i BYTH yn neud hyna. Ella am £1miliwn. Ella. Ta waeth - hyd yn oed efo’n nhraed i’n sownd ar y ddaear, mae’n le hollol styning. Yn fyma fydden ni’n stopio i gael ein picnic gan fod o tua 1/3 o’r ffordd rownd ar y fersiwn byr o’r dro.


4. Dilynwch y llwybr at gwt gwylwyr y glannau

Pan ma’ch bolia chi’n llawn bwyd, daliwch ati ar y llwybr arfordirol. Mae’r darn yma o’r daith yn gallu bod yn gymharol heriol, ac mi fydd angen cadw golwg barcud ar unrhyw blant sydd efo chi! Mae 2 ran o’r llwybr yma unai’n serth iawn, neu’n agos iawn at ochr y glogwyn. Ond os da chi’n ddigon dewr (tydi o ddim mor wael a hyna!), gewch chi wobr wrth i chi ddod rownd y gornel - mae’r golygfeydd o’r rhan yma heb eu hail. Hollol syfrdanol. Wrth i chi gerdded fyny’r allt at gwt Gwylwyr y Glannau, efo’r eithin melyn yn drawiadol yn erbyn yn erbyn lliw gwryddlas y môr, mi welwch chi Eryri yn ei holl ogoniant - o’r Carneddau reit i lawr at Benllyn. Mi welwch chi hefyd o fan hyn traeth Borth Wen, efo’i dywod gwyn a’i fôr clîr - yn wir i chi, mi deura’i mai dyma ydi’r olygfa mwyaf godidog yn Sir Fôn, heb os.


5. penderfynnwch am ba mor hir da chi isho bod allan!

Ar ochr arall i gwt Gwylwyr y Glannau, wrth i chi fynd i lawr yr allt, mae na 2 lwybr posib. Os gymrwch chi’r llwybr i’r chwith, mi fyddwch chi nôl wrth y car (neu’n ista yn y pub!) o fewn 5-10 munud. Dyma’n llwybr da ni fel arfer yn ei gymryd - ma nghoesa bach i di blino erbyn rwan! Wrth i chi gyrraedd nôl at y lôn lle mae’r eglwys, trowch i’r dde ac mi welwch chi’r White Eagle ymhen tua 200 llath. Neu, os oes awydd gennych chi gerdded dipyn bach ymhellach, cariwch ymlaen o’r cwt ac ewch i lawr yr allt. Dilynwch y llwybr nes i gyrraedd traeth Borth Wen, ac yna o’r maes parcio, cerddwch i fyny’r lôn nes i chi gyrraedd y pub. Gair i gall - mi fyddwch chi WIR yn haeddu’r peint os da chi’n dewis mynd y ffordd yma!


Felly dyna ni! Y dro gorau yn Sir Fôn. Mae’n cymryd tua awr - awr a hanner i ni’i gerdded heb stopio. Ma na cwpl o lefydd serth, a cwpl o rannau sy’n eitha agos i’r glogwyn. Yn anffodus tydi’r dro yma ddim yn addas i’r rhai sy’n defnyddio cadair olwyn, nag i goets. Mae’r llwybrau unai’n mynd trwy caeau efo da byw ynddyn nhw, neu’n rhedeg ochr yn ochr efo’r caeau yma, felly plîs cadwch eich cwn ar dennyn. Mae’r dro yma wir werth ei wneud, yn enwedig ar ddiwrnod clîr. Ac os ydach chi’n ffeindio’ch hun yn fflagio hanner ffordd rownd, jyst meddyliwch am y seidar Old Mout (kiwi & leim, os oeddach chi’n wyndro) gewch chi ar ddiwedd y daith.

Does na’n dro gwell yn Sir Fôn sydd efo pub ar ddiwedd y daith. Ond ma croeso i chi drio ‘mherswadio i… Gadewch comment o dan y lluniau, neu dewch draw i Facebook or Instagram.

Clare x