Diwrnod Santes Dwynwen - Ffotograffydd Gogledd Cymru
Diwrnod Santes Dwynwen - Ffotograffydd Gogledd Cymru
Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi! Ar ddydd Sadwrn y 25ain o Ionawr, mi fydd Cymru yn dathlu diwrnod nawddsant cariadon - Dwynwen. Mae stori Santes Dwynwen yn un trist iawn, ond erbyn hyn mae hi’n ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr Cymru, ac yn esgus perffaith i fynd am bryd o fwyd crand, mynd am dro, neu jysd treulio amser efo rhywun ‘da chi’n caru. Nes i ddechrau meddwl wsos yma - ar ôl clywed Tudur Owen yn siarad am Llanddwyn - lle yn union ydi’r lle perffaith i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen? Oes na le gwell na Llanddwyn?
Fel ffotograffydd plant a teulu sy’n gweithio ar hud a lled Gogledd Cymru, mi ydw i’n treulio LOT o amser yn chwilio am y lleoliadau perffaith ar gyfer photoshoots. Mae cefn gwlad ac arfordir Cymru heb eu hail (pan mae’r glaw yn cadw draw!) ac weithiau mae gormod o ddewis o leoliadau del. Dwi’n lwcus iawn i gael treulio gymaint o amser mewn llefydd stunning, ac ar gyfer y blog yma, dwi wedi trïo meddwl am lefydd amgen i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen.
Ond i ddeud y gwir, fedrai’m dechrau efo’r amgen. Mae’n rhaid i fi ddechrau efo Llanddwyn yn does?! Dwi’n siwr os fysa chi’n gofyn i unrhywun sy’n dathlu diwrnod Santes Dwynwen, mi fysa nhw’n deutha chi mai dyma’r lle i fod. Yndi, mae traeth Llanddwyn, Sir Fôn, yn fendigedig o le. Yn wir i chi, os na ‘da chi erioed wedi bod yna, ewch. Mae’r goedwig a’r tywod euraidd a’r môr gwrydd-las a’r mynyddoedd yr ochr arall i’r Fenai yn arallfydol. O mam bach mae hi’n braf yna. Ond ar ddiwrnod Santes Dwynwen? Mi fydd hi’n andros o brysur. A gwatchiwch da chi bod chi ddim yn cael eich dal ar Ynys Llanddwyn pan ddeith y llanw mewn…
Felly ymlaen i’r amgen. Os ydach chi erioed wedi bod i Sir Fôn, mi ddylsa bod chi wedi croesi Bont Borth. Un o’r llefydd mwyaf rhamantaidd yng Nghymru ydi o dan y bont yna. Naci, ddim yn y dwr (mi fysa hyna’n beryglus iawn!), ond os gerddwch chi drwy Borthaethwy, ar hyd lannau’r Fenai ar y Belgian Promenade, mi gewch chi gerdded o dan y bont godidog yma. A gesiwch be? Ma’r lôn yna’n ddigon llydan i chi yrru lawr na, o dan y bont. Ac os ydach chi’n lwcus iawn (a ddim yn gyrru car mawr iawn), mi fydd na neb arall wedi parcio yn yr un lle parcio sy na o dan y bont. Felly mi gewch chi barcio yna, o dan Bont Borth, yn gwylio dwr y Fenai yn mynd heibio, tra’n bwyta Chinese o’r Jade Village. Perffaith.
Yn y gorllewin gwyllt, Sir Benfro i fod yn fanwl gywir, mae na draeth o’r enw Marloes. Yndi, mae Cymru’n llawn traethau (tra mor yn fur i bur hoff bau…) ond mae na draethau, ac mae na draethau. Ac, fel Llanddwyn, mae Marloes yn draeth. Un o’r rhesymau pam fod o mor rhamantaidd ydi’r ffaith bod y maes parcio tua milltir o’r traeth ei hun. Mae’n rhaid i chi gerdded drwy cae ffarmwr ac i lawr llwybr cul i gyrraedd yna, sy’n meddwl bod hi’n ddistaw iawn yna rhan fwyaf o’r flwyddyn. Os ewch chi yno ym Mis Medi, a cherdded ar hyd yr arfordir, mae’n debygol iawn i chi weld morloi a’u babis. Ciwt iawn.
Tra’n bod ni’n sôn am draethau, mae Southerdown, Bro Morgannwg, yn chwip o draeth rhamantaidd. Iawn ta, ella bo fi dipyn bach yn biased… dyma’r traeth lle gofynnodd fy ngwr i mi ei briodi. Os ydach chi’n parcio yn y maes parcio top, a cherdded lawr at y traeth, mae’r olygfa yn syfrdanol, ac mae’r machlud o fyma yn gallu bod yn anhygoel. Dyma lle o’n i’n sefyll pan sbïais i lawr, ac yna yn y tywod oedd y geiriau “Clare, will you marry me?”. Chwarae teg iddo fo, ynde!
Ella bod chi wedi sylweddoli erbyn hyn, ond mi ydw i wedi mopio’n llwyr efo lan y môr! Ond wrth gwrs mae na lawer iawn o lefydd eraill yn Ngyhmru sydd yn hollol wefreiddiol ac yn bell iawn o unrhyw fôr. Un o’r rhain ydw Betws y Coed, Gwynedd. Oes, mae na goedwigoedd lliwgar a rhaeadr lyfli. Ond ewch dros y bont sy’n nghanol y pentref, trwoch i’r chwaith a dilynwch y llwybr, ac mae na hefyd gae bach sy’n llawn gwair hir yn yr haf, lle gallwch wylio’r afon yn rhedeg am oriau maith. Yn y gaeaf, ewch a fflasg o siocled poeth (neu hipflask?!), yn yr haf, ewch ag eli haul. Mae hi mor braf yna yn yr haf, sa chi wir yn gallu disgyn i gysgu yn gwrando ar yr afon a sbïo ar y cymylau.
Mae’r lleoliad olaf yn nôl wrth y môr (ma na rwbath am y môr yndoes?!), sef Nant Gwrtheyrn, Penllyn. Mae’n siwr eich bod chi wedi clywed am Nant Gwrtheyrn fel rhywle i fynd i ddysgu Cymraeg. Neu ella’ch bod chi wedi bod yna ar gyfer parti priodas. Ond mae’r ganolfan hefyd ar lwybr arfordir Penllyn, ac mae’r golygfeydd yn hollol syfrdanol. Wrth yrru lawr yr allt hir, cewch gipolwg o’r môr o’ch blaen, ac unwaith da chi’n cyrraedd y gwaelod, mae’r golygfeydd heb eu hail. Ewch am dro, joiwch cwmni’ch gilydd, ac wedyn ewch am beint i dafarn y Fic, Llithfaen. O ma bywyd mor braf.
Wrth gwrs fedrai ddim blogio am bob un lle lyfli yng Nghymru, mae na ormod ohonyn nhw! Lle fyddwch chi’n dathlu diwrnod Santes Dwynwen? Gadewch i fi wbod yn y ‘comments’ isod, a joiwch!